Police Federation

Policing in Wales ‘should be run by Welsh Government’

Welsh Lead reacts to report that recommends responsibility for the service should be devolved

24 October 2019

Share
Welsh Lead Mark Bleasdale

Welsh Lead Mark Bleasdale

The political responsibility for policing in Wales should move to the Welsh Government and away from politicians in Westminster – replicating the situation in Scotland and Northern Ireland.

That is one of the recommendations of the Commission for Justice in Wales which has today (24 October) published its comprehensive review of the country’s justice system.

The Justice in Wales for the People of Wales Report – authored by the former Lord Chief Justice of England and Wales Lord Thomas of Cwmgiedd – makes 78 recommendations about the future of the justice system in Wales in what it describes as an ‘ambitious plan for the future’.

They include backing for a fully devolved police service in Wales which would be governed by the Welsh Government rather than the one in Westminster.

Policing is one element of the wider justice system – which also includes the courts, prison and probation services – which the commission suggest should be devolved.

Lord Thomas said: “Justice should be determined and delivered in Wales so that it aligns with distinct and developing social policy and a growing body of Welsh law.”

Continuing: “The way that responsibilities are split between Westminster and Cardiff has created pointless complexity, confusion and incoherence in justice and policing in Wales”.

Reacting to the report Mark Bleasdale, Police Federation of England and Wales’ Welsh Lead, said: “Lord Thomas and his commission have whole-heartedly backed a shift of the whole justice system in Wales - including policing - from Westminster to Cardiff.

“PFEW remains neutral on the matter of devolved policing. However, in our detailed evidential submission to this commission, and the Silk Commission before it, we concluded that policing in Wales “could be devolved” but that the decision of whether it “should be devolved” is a matter for politicians. And we will now see how they react to this latest report.”

Mr Bleasdale also stressed that if commission’s recommendations are accepted by the Welsh and Westminster Governments any changes must be done in full consultation with police officers, criminal justice stakeholders and in consideration of the needs of the public.

He added: “The Police Federation must be at the heart of any the planning and implementation of any changes to ensure our members are best represented.”

If there is a move for full devolution of policing PFEW will also be seeking guarantees that appropriate funding will be provided by the Treasury to ensure that the Welsh Government, Chief Constables and Police and Crime Commissioners are given the financial capability to reinvigorate Welsh policing following years of austerity.

“Whatever lies ahead, Police officers in Wales will continue to do what they do day in day out - serve their communities to the very best of their ability,” Mr Bleasdale concluded.

The report does not make any recommendation in relation to the concept of a single Wales Police Force instead stating ‘this should be a decision for the future’.

Other recommendations from the Commission include:

• The creation of a new Justice Department within the Welsh Government led by a Cabinet Minister,

• Long-term arrangements for police apprenticeship funding which do not disadvantage Welsh police forces compared to their English counterparts to be agreed by the Welsh Government and the Home Office,

• Policing and crime reduction policy, including drug abuse and mental health related issues, should be determined in Wales so that it is aligned and integrated with Welsh health, education and social policy, and

• The age of criminal responsibility in Wales being raised to at least 12 years old.

The Welsh Assembly Government has the ability to create its own laws and the majority of other public services in Wales are already devolved – creating increased divergence between Wales and England, a factor which is highlighted in the report.

Speaking at the launch of the report the First Minister of Wales Mark Drakeford announced that an implementation team consisting of civil servants and selected stakeholders will be formed to look at how these recommendations can be taken forward.

However, the Ministry of Justice appear to have poured cold water on the proposals saying it believes devolution of all justice functions in Wales would be too costly and lead to significant duplication.

In a statement a MoJ spokesperson said: “It is our belief that a single jurisdiction is the most effective way to deliver justice across England and Wales.”
The Thomas Commission – as the report is also known - follows the Silk Commission which was published in 2014 which also recommended a move to a devolved police service.

The Police Federation engaged fully with both commissions providing detailed evidence on behalf of its members.

The Thomas Commission reviewed criminal justice and policing; civil, commercial, family and administrative justice; access to justice; legal education and training; the legal professions and economy; and the legal jurisdiction.

The publication of the report comes at the end of nearly two years' work which involved taking oral evidence from 150 people; collating 200 pieces of written evidence and conducting 80 engagement events across Wales and the UK as well as considering best practice overseas.

 

The following is the Welsh translation of the above news story: 


'Llywodraeth Cymru ddylai redeg' plismona yng Nghymru

Ffederasiwn Heddluoedd Cymru a Lloegr yn ymateb wrth i adroddiad newydd argymell y dylid datganoli cyfrifoldeb am y gwasanaeth

Dylai cyfrifoldeb gwleidyddol ar gyfer plismona yng Nghymru fod yn nwylo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hytrach na gwleidyddion San Steffan – gan ddilyn y sefyllfa yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dyna un o argymhellion y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru sydd heddiw (24 Hydref) wedi cyhoeddi ei adolygiad cynhwysfawr o system gyfiawnder y wlad.

Mae Adroddiad Cyfiawnder yng Nghymru i Bobl Cymru – a ysgrifennwyd gan gyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – yn gwneud 78 argymhelliad ynghylch dyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru. Mae'n ei ddisgrifio fel ‘cynllun uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol’.

Maent yn cynnwys cefnogaeth am wasanaeth heddlu cwbl ddatganoledig yng Nghymru a fyddai'n cael ei lywodraethu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn hytrach na'r un yn San Steffan.

Mae plismona’n un elfen o'r system gyfiawnder ehangach – sydd hefyd yn cynnwys y llysoedd, gwasanaethau carchar a phrawf – y mae'r comisiwn yn ei awgrymu dylai gael ei datganoli.

Dywedodd yr Arglwydd Thomas: “Dylai cyfiawnder gael ei benderfynu a'i gyflawni yng Nghymru fel ei fod yn gydnaws â pholisi cymdeithasol nodweddiadol a datblygedig a’i fod yn gorff cyfraith Gymreig cryfach.”

Gan barhau: “Mae'r ffordd y rhennir cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chaerdydd wedi creu cymhlethdod, dryswch a diffyg cysylltiad dibwrpas mewn cyfiawnder a phlismona yng Nghymru”.

Gan ymateb i'r adroddiad, dywedodd Mark Bleasdale, Arweinydd Ffederasiwn Cymru a Lloegr yng Nghymru: “Mae'r Arglwydd Thomas a'i gomisiwn yn ddiffuant wedi cefnogi symudiad y system gyfiawnder gyfan yng Nghymru– gan gynnwys plismona – o San Steffan i Gaerdydd.

“Mae’r Ffederasiwn yn parhau'n niwtral ar y mater o blismona datganoledig. Fodd bynnag, yn ein cyflwyniad tystiolaeth manwl i'r comisiwn hwn, a'r Comisiwn Silk o'i flaen, daethom i'r casgliad y gallai plismona yng Nghymru “gael ei ddatganoli”. Ond mae'r penderfyniad os dylai “gael ei ddatganoli” yn fater i wleidyddion. A rŵan fe wnawn weld sut maent yn ymateb i'r adroddiad diweddaraf."

Gwnaeth Mr Bleasdale bwysleisio hefyd os derbynnir argymhellion y comisiwn gan Lywodraethau Cymru a San Steffan, rhaid i unrhyw newidiadau gael eu gwneud mewn ymgynghoriad llawn gyda swyddogion heddlu, rhanddeiliaid cyfiawnder troseddol ac ystyried anghenion y cyhoedd.

Ychwanegodd: “Dylai Ffederasiwn yr Heddlu fod wrth galon unrhyw gynllunio a gweithredu unrhyw newidiadau i sicrhau fod ein haelodau yn cael eu cynrychioli orau.”

Os oes symudiad at ddatganoli plismona'n llawn, gwnaiff y Ffederasiwn hefyd geisio sicrwydd y darperir nawdd priodol gan y Trysorlys. Gwneir hyn i sicrhau y rhoddir gallu ariannol i Lywodraeth Cymru, Prif Gwnstabliaid a'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd i adfywio plismona Cymru. Mae hyn yn dilyn blynyddoedd o lymder.

Gorffennodd Mr Bleasdale trwy ddweud: “Pa beth bynnag sydd i ddod, gwnaiff swyddogion heddlu yng Nghymru barhau i wneud yr hyn a wnânt o fore gwyn tan nos – gwasanaethu eu cymunedau'r gorau gallent."

Nid yw'r adroddiad yn argymell dim o ran y cysyniad o un Heddlu yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n dweud: ‘dylai hyn fod yn benderfyniad i'r dyfodol’.

Mae argymhellion eraill gan y Comisiwn yn cynnwys:

  • Creu Adran Gyfiawnder newydd o fewn Llywodraeth Cymru a arweinir gan Weinidog Cabinet,
  • Trefniadau tymor hir am nawdd prentisiaethau'r heddlu i'w cytuno gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref sydd ddim yn peri anfantais i heddluoedd Cymru o'i gymharu â heddluoedd Lloegr,

  • Dylai polisi plismona a lleihau troseddau, gan gynnwys cam-drin cyffuriau a phroblemau iechyd meddwl, gael ei benderfynu yng Nghymru fel ei fod yn gydnaws ac yn integreiddio ag iechyd, addysg a pholisi cymdeithasol Cymru, ac

  • Oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru i gael ei godi i 12 oed o leiaf.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru'r gallu i greu ei chyfreithiau ei hun ac mae mwyafrif gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru wedi'u datganoli eisoes – gan greu gwahaniaeth cynyddol rhwng Cymru a Lloegr. Mae hwn yn ffactor a dynnir sylw ato yn yr adroddiad.

Gan siarad yn lansiad yr adroddiad, cyhoeddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y bydd tîm gweithredu sy'n cynnwys gweision sifil a rhanddeiliaid dethol, yn cael ei ffurfio i edrych ar sut y gellir gweithredu'r argymhellion hyn.

Fodd bynnag, ymddengys fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi tywallt dŵr oer ar y cynigion gan ddweud ei bod yn credu y byddai datganoli holl gyfrifoldebau cyfiawnder yng Nghymru yn rhy gostus ac yn arwain at ddyblygu sylweddol.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Ein cred yw mai awdurdod unigol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni cyfiawnder ledled Cymru a Lloegr.”

Mae'r Comisiwn Thomas – fel yr adwaenir yr adroddiad hefyd – yn dilyn y Comisiwn Silk a gyhoeddwyd yn 2014 a argymhellodd symudiad hefyd at wasanaeth heddlu mwy datganoledig.

Gwnaeth Ffederasiwn yr Heddlu ymgysylltu'n llawn gyda'r ddau gomisiwn gan roi tystiolaeth fanwl ar ran ei aelodau.

Gwnaeth y Comisiwn Thomas adolygu cyfiawnder troseddol a phlismona; cyfiawnder sifil, masnachol, teuluol a gweinyddol; mynediad at gyfiawnder; addysg a hyfforddiant cyfreithiol; y galwedigaethau cyfreithiol ac economi; a'r awdurdod cyfreithiol.

Daw cyhoeddi'r adroddiad ar ddiwedd bron i ddwy flynedd o waith a oedd yn cynnwys cymryd tystiolaeth lafar gan 150 o bobl. Casglwyd 200 darn o dystiolaeth ysgrifenedig a chynhaliwyd 80 o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru a'r DU ynghyd ag ystyried arfer gorau dramor.

We use cookies on this website, you can read about them here To use the website as intended please... ACCEPT COOKIES