90 days from today is Sun, 08 December 2024

Police Federation Template Website

About us

About us

The Police Federation of England and Wales (PFEW) established its Welsh Affairs to ensure that its members were given a strong and consistent voice in Wales.

The committee provides an effective link between PFEW, the Welsh Parliament (Senedd Cymru), Members of the Senedd (MS) and the chief officers and Police and Crime Commissioners in the four Welsh forces – Dyfed Powys, Gwent, North Wales and South Wales. It also liaises with a range of devolved and non-devolved public bodies, representing Federation members’ views.

Nicky Ryan, a former secretary of Gwent Police Federation, is the Federation’s Welsh lead and chairs meetings of the Welsh Affairs.

Her remit includes everything from the pandemic to mental health and helping shape new legislation. Nicky and the committee aim to influence policy-makers and police leaders on the issues that matter to Federation members, constables, sergeants, inspectors and chief inspectors serving the communities of Wales.

The committee members include representatives from the four Welsh Federation branches and members of the Federation’s National Board. The committee is also assisted by the Superintendents’ Association, and has internal and external communication support as well as a political adviser for Welsh Parliament issues.

Amdanom ni

Sefydlodd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW) ei Is-bwyllgor Materion Cymreig i sicrhau bod gan ei aelodau lais cryf a chyson yng Nghymru.

Mae’r pwyllgor yn ddolen effeithlon rhwng PFEW, Senedd Cymru, Aelodau o’r Senedd a ‘r prif swyddogion a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu yn y pedwar heddlu yng Nghymru – De Cymru, Dyfed Powys, Gogledd Cymru a Gwent. Mae hefyd yn cysylltu gydag amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a gafodd eu datganoli a heb eu datganoli, gan gynrychioli barn aelodau’r Ffederasiwn.

Nicky Ryan, cyn ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gwent, yw arweinydd y Ffederasiwn yng Nghymru a chadeirydd cyfarfodydd yr Is-bwyllgor Materion Cymreig.

Mae ei chylch gorchwyl yn cynnwys popeth o’r pandemig i iechyd meddwl a helpu i lunio deddfwriaeth newydd. Mae Nicky a’r pwyllgor yn anelu i ddylanwadu ar wneuthurwyr polisi ac arweinwyr heddlu ar y materion sy’n cyfrif i aelodau’r Ffederasiwn, cwnstabliaid, rhingylliaid, arolygwyr a phrif arolygwyr sy’n gwasanaethu cymunedau Cymru.

Mae aelodau’r pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o bedair cangen Ffederasiwn Cymru ac aelodau o Fwrdd Cenedlaethol y Ffederasiwn. Caiff y pwyllgor hefyd ei gynorthwyo gan Gymdeithas Uwcharolygwyr ac mae’n cael cymorth cyfathrebu mewnol ac allanol yn ogystal â chynghorydd gwleidyddol ar gyfer materion yn ymwneud â Senedd Cymru.