90 days from today is Fri, 19 July 2024

Police Federation Template Website

Christmas message

21 December 2021

Another year is drawing to a close and, as we approach Christmas and the New Year, I think it is safe to say it was every bit as challenging as the one before and many of us will be glad to see the back of it. 

There are no doubt fresh challenges ahead with the spread of the Omicron variant and the news that, here in Wales, we will face further coronavirus restrictions straight after Christmas.

But I am confident that our members will respond and adapt to the introduction of these new rules in the same way as they have in the past and handle them sensitively and appropriately while keeping our communities safe and secure as we go into 2022.

The last year has seen a shocking increase in the number of assaults against police officers and emergency service workers in Wales and unfortunately there is nothing to suggest this worrying trend will not continue throughout the Christmas and New Year holidays so I would urge all our members to stay safe and keep looking out for each other.

I know many of you will be working during the forthcoming holidays but I do hope you will get the chance to spend at least some quality time with family and friends this Christmas and are able to take a well-deserved break from the pressures of work.

I am looking forward to continuing to work with stakeholders during 2022, representing you and reflecting the views of Welsh officers so that decision-makers can take those on board when considering the issues that affect you.

Finally, on behalf of the Police Federation’s Welsh Affairs Sub-Committee, I would like to wish you and your loved ones a very merry Christmas and a happy New Year.

Nicky Ryan, Police Federation of England and Wales Welsh lead

Neges y Nadolig

Mae blwyddyn arall yn dod i ben ac, wrth i ni nesáu at y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, rwyf yn meddwl ei bod hi'n iawn dweud ei bod wedi bod yr un mor heriol â'r flwyddyn cynt a bydd llawer ohonom yn falch o ffarwelio â hi.

Yn ddi-os, bydd heriau newydd o'n blaenau gyda lledaeniad yr amrywiolyn Omicron a'r newyddion y byddwn, yma yng Nghymru, yn wynebu cyfyngiadau coronafeirws pellach yn syth wedi'r Nadolig.

Ond rwyf yn hyderus y gwnaiff ein haelodau ymateb ac addasu wrth i'r rheolau newydd hyn gael eu cyflwyno, yn yr un ffordd ag y maent wedi gwneud yn y gorffennol a'u trin yn sensitif ac yn briodol wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel wrth i ni fentro i 2022.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld cynnydd syfrdanol yn y nifer o ymosodiadau yn erbyn swyddogion heddlu a gweithwyr y gwasanaethau brys yng Nghymru. Yn anffodus, does dim i awgrymu na wnaiff y pryder hwn barhau drwy gydol gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Felly buaswn yn annog ein holl aelodau i gadw'n ddiogel a gofalu am ei gilydd.

Rwyf yn gwybod y bydd llawer ohonoch yn gweithio dros yr Ŵyl. Ond rwyf yn gobeithio y cewch y cyfle i dreulio o leiaf rhywfaint o amser gyda theulu a ffrindiau'r Nadolig hwn ac yn gallu cael seibiant o bwysau gwaith.

Rwyf yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda rhanddeiliaid yn ystod 2022, yn eich cynrychioli chi ac yn adlewyrchu barn swyddogion Cymru fel y gall y bobl hynny sy'n gwneud y penderfyniadau eu hystyried wrth feddwl am y materion sy'n effeithio arnoch chi.

Yn olaf, ar ran Is-bwyllgor Materion Cymreig Ffederasiwn yr Heddlu, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi ac i'ch anwyliaid.