90 days from today is Fri, 19 July 2024

North Wales Police Federation

Cymraeg

Nod Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru yw rhoi cefnogaeth effeithiol i’w aelodau a hyrwyddo effeithlonrwydd Heddlu Gogledd Cymru.  Byddwn yn gwneud ein gorau i gynrychioli ein haelodau a negodi ar eu rhan mewn dull cadarn, agored a gonest er mwyn sicrhau bod swyddogion bob amser yn cael eu trin yn deg ac yn ystyrlon  gan yr Heddlu hwn.

Rydym yn anelu at roi gwasanaeth proffesiynol a gofalgar i’n haelodau er mwyn meithrin perthynas sy’n seiliedig ar ffydd, cyfrinachedd a pharch ar y naill ochr a’r llall.  Byddwn yn ceisio adeiladu ar y berthynas honno er mwyn  penderfynu ar y gefnogaeth, y cyngor a’r camau gweithredu mwyaf priodol  i ddiwallu anghenion a phroblemau unigol.

 

Ein hanes

Mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yn gymdeithas staff sy’n cynrychioli holl rengoedd ffederal. Rydym yn cynrychioli cwnstabliaid, rhingylliaid ac arolygyddion (yn cynnwys prif arolygyddion). Nid yw’r Ffederasiwn yn wleidyddol ac yn cael ei gweinyddu’n gyfan gwbl gan swyddogion sy’n gwasanaethu.

Crëwyd gan Ddeddf yr Heddlu 1919, a basiwyd flwyddyn ar ôl streic niweidiol gan Undeb Cenedlaethol yr Heddlu a Swyddogion Carchar (NUPPO) nad oedd yn cael ei gydnabod.

 

Nodau ac Amcanion

Mae Ffederasiwn yr Heddlu Cymru a Lloegr yn un o’r cymdeithasau staff mwyaf yn y DU, sy’n cynrychioli 12,000 o swyddogion heddlu hyd at ac yn cynnwys rheng Prif Arolygydd. Mae gennym rwymedigaeth statudol i sicrhau fod safbwyntiau ein haelodau yn cael eu trosglwyddo i’r llywodraeth, ffurfwyr barn a rhanddeiliaid allweddol. Er mwyn sicrhau hyn, rydym yn mesur y gwaith a wnawn a’r hyn a geisiwn ei gyflawni yn erbyn ein nodau ac amcanion sefydliadol.

Represent and Support

Dylanwadu

Trafod

Amcan:

Cynrychioli a hyrwyddo buddiannau a llesiant ein haelodau, a chynorthwyo cydweithwyr i gyflawni’r safonau proffesiynol gofynnol.

Amcan:

Dylanwadu gwneuthurwyr penderfyniadau mewnol ac allanol ar lefelau lleol a chenedlaethol ar faterion sy’n effeithio ein haelodau a’r gwasanaeth heddlu.

Amcan:

Cynnal a gwella amodau gwasanaeth a thâl ein haelodau.

Gwnawn hyn drwy:
  • Bodloni ein cyfrifoldebau statudol.
  • Cynrychioli buddiannau ein haelodau o ran disgyblaeth, amrywiaeth, iechyd a diogelwch, llesiant, pensiynau, hawliadau a gwasanaethau aelodau.
  • Sicrhau fod gan Gynrychiolwyr y sgiliau a’r galluoedd angenrheidiol er mwyn cyflawni eu rôl a bodloni eu cyfrifoldebau statudol.
  • Darparu cynrychiolaeth genedlaethol a lleol er mwyn sicrhau fod ein haelodau yn derbyn hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni gwasanaeth heddlu proffesiynol.
Gwnawn hyn drwy:
  • Rhoi arweinyddiaeth glir yn lleol a chenedlaethol ar faterion sy’n effeithio’r aelodaeth.
  • Gwrando ar ac adlewyrchu materion sy’n pryderu ein haelodau.
  • Cynnal strategaeth gyfathrebu effeithiol.
  • Ymgysylltu gyda holl randdeiliaid a gwneuthurwyr penderfyniadau mewnol ac allanol.
  • Rhoi gwybodaeth tystiolaeth yn nwylo gwneuthurwyr penderfyniadau.
Gwnawn hyn drwy:
  • Mynd ati i gyfranogi mewn trafodaethau cenedlaethol, yr heddlu a lleol.
  • Trafod ar y cyd ac ar ran aelodau unigol.
  • Defnyddio gwybodaeth ar sail tystiolaeth yn ein harferion busnes.

 

Y Ffederasiwn Heddiw

Mae’r Ffederasiwn wedi esblygu o fod yn sefydliad gwirfoddol heb ei ariannu yn ei flynyddoedd cynnar, i gymdeithas staff proffesiynol a modern sy’n gofalu am bob pwnc a phroblem sy’n effeithio’r gwasanaeth heddlu. Mae hyn yn cynnwys holl agweddau tâl, lwfansau, oriau dyletswydd, gwyliau blynyddol a phensiynau, gan sicrhau y clywir safbwyntiau ei aelodau.

Ar ran ei aelodau, mae’r Ffederasiwn hefyd yn cael ei ymgynghori pan osodir rheoliadau’r heddlu a phan drafodir hyfforddiant, dyrchafiad, disgyblaeth a safonau proffesiynol.

Mae’r Ffederasiwn wedi’i leoli mewn pencadlys pwrpasol yn Leatherhead. Mae’n cyflogi oddeutu 80 o bobl, gydag adrannau Cyfathrebiadau, AD, Argraffu, TGCh ac Ymchwil helaeth, ynghyd â staff cefnogol a gweinyddol ar gyfer holl aelodau’r Cydbwyllgor Canolog ac is-bwyllgorau.

 

Ffederasiynau Lleol

Mae gan 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr nifer o gynrychiolwyr, sy’n swyddogion gwirfoddol sydd wedi’u hethol gan eu cyfoedion, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r Cyngor Cangen.

Mae’r Cyngor yn gweithredu fel corff trafod ac ymgynghori wrth ymdrin â’r Prif Gwnstabl, uwch swyddogion ac Awdurdod yr Heddlu, gan ddarparu cyswllt effeithiol rhwng swyddogion ac uwch reolwyr. Maent yn ymdrin â’r problemau dyddiol mae swyddogion yn eu hwynebu, ac yn gweithio i wella statws y gwasanaeth heddlu a’i aelodau.

Mae’r Ffederasiwn wedi creu llyfryn sy’n rhoi trosolwg o sut y gall y Ffederasiwn gynorthwyo ei aelodau. Os ydych yn swyddog sydd angen cyngor neu gymorth, peidiwch â phetruso cysylltu â ni.

Gallwch ddarllen mwy am waith Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru yn ein Hadroddiad Blynyddol.

 

Rhyddid Gwybodaeth

O 3 Ebrill 2017, mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yn amodol ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ar y wefan hon neu ar y dudalen mynediad at wybodaeth, anfonwch eich cais at:

FOI@polfed.org, neu ysgrifennwch at:

Freedom of Information,
Federation House,
Highbury Drive,
Leatherhead,
Surrey,
KT22 7UY.

Ceir manylion pellach ar Gynllun Cyhoeddi Ffederasiwn yr Heddlu.

Ceir mwy o wybodaeth am Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yma.